1,2,3,(4). Newyddion brâf a ddaeth i'n bro, Hwy haeddent gael eu dwyn ar go', Mae'r Iesu wedi cario'r dydd, Caiff carcharorion fynd yn rhydd. + cytgan gan Elfed Lewys 1934-99 Mae Iesu Grist o'n hochor ni, Fe gollodd ef ei waed yn lli; Trwy rinwedd hwn fe'n dwg yn iach I'r ochor draw 'mhen gronyn bach. Wel, f'enaid, bellach cod dy ben, Mae'r ffordd yn rhydd i'r nefoedd wen; Mae'n holl elynion ni yn awr Mewn cadwyn gan y Brenin mawr. Doed gogledd, de, a dwyrain bell, I glywed y newyddion gwell; Aed sôn am gadwedigol ras, Yn gylch oddeutu'r ddaear las.
Newyddion braf a ddaeth i'n bro, Hwy haeddent gael eu dwyn ar go' Mae'r Iesu wedi cario'r dydd, Caiff carcharorion fyn'd yn rhydd. Mae Iesu Grist o'n hochr ni, Fe gollodd ef ei waed yn lli; Trwy rinwedd hwn fe'n dwg yn iach, I'r ochr draw 'mhen gronyn bach. Wel, f'enaid, weithian c'od dy ben, Mae'r ffordd yn rhydd i'r nefoedd wen; Ein holl elynion sydd yn awr, Mewn cadwyn gan y Brenin mawr. Fy Iesu garai bellach mwy Ddioddefodd drosof farwol glwy'; Fy Mhriod hynod yw o hyd, A'm cyfaill goreu yn y byd. Doed fel y dêl, mi a'i cara o hyd Dan bob rhyw drallod yn y byd, Yn angau du a'r farn a ddaw. Mi a'i cara i drag'wyddoldeb draw. Pan syrthio'r ser fel ffigys îr, Pan ferwo'r mor, pan losgo'r tir, Pan droir yr haul a'r lloer yn ddu, Pryd hyn mi gara Mhrynwr cu. Tra caffwyf rodio'r ddaear hon, Rho'th hedd fel afon dan fy mron; Ac yn y diwedd moes dy law, I'm dwyn i mewn i'r nefoedd draw. fe'n dwg yn iach :: fe'n dŵg ni'n iach garai :: garaf Ddioddefodd :: Dyoddefodd bellach :: weithian
Newyddion braf a ddaeth i'n bro, Hwy haeddent gael eu dwyn ar go', Fod Iesu wedi cael y dydd; Caiff carcharorion fyn'd yn rhydd. Cyfododd yn ei erbyn Ef Y ddaear, uffern, do, a'r nef; Ond sefyll wnaeth ein Prynwr drud, Dan eithaf dig y rhai'n i gyd. Ein holl elynion sydd yn awr Mewn cadwyn gan ein Prynwr mawr; Fy enaid, bellach cwyd dy ben, Mae'r ffordd yn rhydd i'r nefoedd wen. Mae Iesu Grist o'n hochr ni, Tywalltodd ef ei waed yn lli; Trwy rinwedd hwn fe'n dwg yn iach I'r ochr draw 'mhen gronyn bach. - - - - - Newyddion brâf a ddaeth i'n bro - A haeddent gael eu dwyn ar go' - Mae Iesu wedi cario'r dydd, Caiff carcharorion fynd yn rhydd. Mae Iesu Grist o'n hochr ni, Tywalltodd ef ei waed yn lli; Trwy rinwedd hwn fe'n dwg yn iach I'r ochr draw 'mhen gronyn bach. Plant dynion, codwch lawen lef, Â'ch holl eneidiau ato ef, Mewn pur ganiadau yn gytûn, I foli Prynwr, Duw a Dyn. [DJ] Angylion â'ch telynau dewch, Eich peraidd dannau uchaf trewch, A holl drigolion nef a llawr, I seinio mawl ein Brenin mawr. [DJ] Gogoniant byth a fo i'r Tad, A boed gogoniant i'r Mab rhad A gododd o ddyfnderau'r bedd; Gogoniant byth i Ysbryd hedd.John Dafydd 1727-83
priodolwyd hefyd i
Tonau [MH 8888]: gwelir: Dal fi fy Nuw dal fi i'r làn Dowch addewidion dowch yn awr Gwna ni fel halen â Dy râs I [D'wysog / Frenin] y goleuni glân Molianwn Iôr can's hyfryd yw O Arglwydd gwna fi'n golofn gre' O Deued dydd yr India i ben O na foed ardal cyn bo hir 'Rym yn dy erfyn Arglwydd mawr Wel f'enaid bellach c'od dy ben |
Good news has come to our region, It is worthy to be brought to mind Jesus has carried the day, Prisoners may go free. + chorus by Elfed Lewys 1934-99 Jesus Christ is of our side, He shed his blood as a stream; Through his merit he will lead us whole To the far side after a little while. See, my soul, now raise thy head, The way is free to the blessed heavens; All our enemies are now In chains by the great King. Let North, South, and far East, come To hear the better news; And let the mention of saving grace go, As a circle around the blue-green earth.
Good news has come to our region, It is worthy to be brought to mind Jesus has carried the day, Prisoners may go free. Jesus Christ is of our side, He shed his blood as a stream; Through his merit he will lead us whole To the far side after a little while. See, my soul, sometimes raise thy head, The way is free to the bright heaven; All our enemies are now. In chains by the great King. My Jesus I would love henceforth more Who suffered for me a mortal wound; My particular Redeemer he is still, And my best friend in the world. Come as it may, he will love me still Under every kind of tribulation in the world, In black death and the coming judgment. He will love me to a distant eternity. When the stars fall like fresh figs, When the sea boils, when the land burns, When the sun and the moon turn black, At this time my dear Redeemer will love me. While I roam this earth, Put thy peace like a river beneath my breast; And at the end give thy hand, To lead me into the distant heavens. :: Who suffered :: He suffered :: ::
Good news has come to our region, That is worthy to be brought to mind, That Jesus has gained the day; Prisoners get to go free. Against him arose The earth, hell, yes, and heaven; But stand did our precious Redeemer, Under the extreme wrath of all of these. All our enemies are now In chains by our great Redeemer; My soul, henceforth raise thy head, The way is free to bright heaven. Jesus Christ is on our side, He poured out his blood as a flood; Through his merit he will bring us safely To yonder side in a little while. - - - - - Good news has come to our region - That is worthy to be brought to mind - That Jesus has gained the day, Prisoners get to go free. Jesus Christ is on our side, He shed his blood as a stream; Through his merit he will lead us whole, To yonder side after a little while, Ye children of men, raise a cheerful cry, With all your souls unto him, In pure songs in agreement, To praise a Redeemer, God and Man. Ye angels with your harps come, Strike your sweet, loudest strings, And all ye inhabitants of heaven and earth, To sound the praise of our great King. Glory forever be to the Father, And let glory be to the gracious Son Who rose from the depths of the grave; Glory forever to the Spirit of peace.tr. 2009,20 Richard B Gillion |
|